Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweled yno, a gallaf ddywedyd fod eich presennoldeb yn hoff bob amser. ******* "1. Ystyriwch, chwaer anwylaf, fod cystuddiau yn ein diddyfnu oddiwrth y byd. Dyma'r alws mae Duw yn roddi ar fronau'r creadur. 2. Yn gweithio ymostyngiad tan alluog law Duw. 3. Yn dysgu gostyngeiddrwydd. 4. Yn cyffroi i ddiwydrwydd. 5. Yn ein deffro i weddiau. Ac yn 6. Yn ein cydffurfio â delw Duw, a'n haddfedu i ogoniant.

"I'r dyben o fod yn anrhydeddus tanynt, ystyriwn y pethau canlynol:

Yn 1. Ein mawr drueni ein hunain, a'n bod yn haeddu pethau mwy. 2. Dyben Duw yn eu danfon ï'n cyfarfod. 3. Yr addewidion o gynnaliaeth tanynt. 4. A'r daioni sylweddol sydd yn deilliaw o honynt. Ni ddanfonir cystudd byth i gyfarfod a'r duwiol, ond ar neges briodol. Cofiwch y dywediad, "Mae arwydd gwaeth yw bod heb gerydd na bod tan gerydd." Bod yn Gristion, ac yn Gristion goddefgar, sydd yn anrhydedd dau-ddyblig. Er bod eich baich yn drwm, nid oes genych hir ffordd i'w gario. Pa beth ydyw croes amserol, at wisgo coron dragywyddol?

"Yn nghanol llawer o bob rhyw wasanaeth, ymdrechais anfon atoch yr ychydig linellau hyn, gan obeithio y ca'nt chwi yn llawer iawn gwell. Dymunaf fy nghofio yn garedig at eich gwr, eich mab, a'i deulu, yn nghyd a'ch merch; a dymunaf gael fy nghofio genych o flaen gorsedd gras.

Ydwyf, chwaer anwyl,

Yr annheilyngaf o'ch brodyr oll,

A'ch gwas dros Grist,

EBENEZER RICHARD.