Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. VII.

Ei ymweliad cyntaf i'r brif-ddinas—Pigion helaeth o Ddydd-lyfr a gadwai tra yn aros yn Llundain—Llythyr at eglwys Llangeitho—Marwolaeth ei dad-yn-nghyfraith—Marwolaeth ei fam—Llythyrau ato ef oddiwrth y Parch. David Evans, Aberayron.

YN y flwyddyn 1818, ymwelodd am y tro cyntaf a'r brif-ddinas, i weinidogaethu yn mhlith ei gydwladwyr, perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yno; a chan ei fod wedi cadw dydd-lyfr tra chyflawn, am yr amser y bu yn Llundain, rhoddwn y pigion canlynol o hono ger bron ein darllenwyr, lle y canfyddir ei awydd cryf a’i ddiwydrwydd cyson, i ddefnyddio y cyfleusderau oedd o fewn ei gyrhaedd, i wneuthur ei hun yn adnabyddus âg holl amgylchiadau y byd crefyddol yn gyffredin. Geilw ef

DYDD-LYFR,

Neu hanes gywir a manwl o fy nhaith gyntaf i Lundain; fy arosiad yno, a'm dychweliad oddiyno adref; yn cynnwys cofnodau o'r pethau mwyaf hynod a gymerodd le yn mhob diwrnod.

"Mawrth, Iau, 16, 1818. . . . Daeth Mr. Owen Williams i'm cyfarfod i'r dyben o`m harwain i Hoxton Academy; bum am oriau gydag ef yn ei lyfr-gell; yna cefais y fraint o wrando Dr. Collyer yn pregethu yn nghapel Hoxton. Ei destun ydoedd Rhuf. x. 9. Deallais ei fod yn pregethu pur efengyl, a gorfoleddais