Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryfedd-bethau a chywrein—waith o Africa, Asia, ac America, yn nghyd ag amryw greaduriaid, neu eu crwyn wedi eu llanw. Yma boddhawyd fy meddwl âg agos bob golwg a welais. Yn yr hwyr aethum i gyfarfod Beiblau yn Deptford: llefarodd yn nghylch pedwar-ar-ddeg i gyd. Cafwyd llawer o dangnefedd a chariad yn y cyfarfod.

17. . . . . Yn yr hwyr cynnygiais lefaru ar weddio yn ddibaid. Teimlais lawer iawn o ryddid a hyfdra meddwl; mi debygwn na byddai yn rhyfyg i mi feddwl i'r Arglwydd ganiatau dwyfol gymhorth yn y cyfarfod hwn. Bendigedig a fyddo ei enw mawr a rhyfedd, am ei fawr diriondeb i lwch mor wael! ***** 21. Treuliais y boreu hwn yn fy myfyr-gell; ysgrifenais at fy anwyl frawd, Ebenezer Morris, ac ychydig o bethau ereill. . . . . Yn yr hwyr aethum i Gapel Wilderness Row, lle yr oedd cyfarfod gan y Saeson yn achos y Feibl Gymdeithas, a Dr. Collyer yn y gadair. Trodd hwn allan yn gyfarfod tra gwerthfawr. Llefarodd yma lawer iawn ar yr achos, gyda llawer iawn o ddoniau areithyddol, ac ymddangosodd pethau tra rhyfedd yn wyneb yr areithiau. Terfynwyd trwy araeth gan y cadeiriwr.

22. Y boreu hwn, ar ol treulio amryw oriau yn fy myfyr-gell, aethum i Bedford Chapel, i wrando y Parchedig Daniel Wilson, a chefais bregeth o efengyl oddiwrth Jer. xxxi. 31-34; y gair olaf yn benaf, sef maddeuant pechod. Pregethodd yn dda odiacth, ac yn dra eglur a goleu. Yn yr hwyr, aethum i Dŷ'r Cyffredin (House of Commons) yn y senedd, lle y gwelais ryfeddodau, ac y clywais areithiau dawnus a hyawdl gan Mr. Wilberforce, Mr. Goulding, Mr.