4. Cyfodais heddyw yn hytrach cyn pump; rhodiais allan ychydig, a dychwelais at fy moreufwyd. Wedi hyny aethum gyda chyfaill i'r Capel-ar-Nawf, (Floating Chapel,) can yr heddyw yr agorwyd ef i bregethu ynddo gyntaf. Yn y boreu pregethodd y Parch. Mr. Hill oddiwrth Gen. viii. 9, "Ac ni chafodd y golomen orphwysfa i wadn ei throed." Yr oedd y gynnulleidfa yn lluosog, a'r cyfarfod yn hyfryd iawn. Casglwyd at gynnal yr achos £80. Ymadawodd y gynnulleidfa heb neb yn cael dim niweid ar a glywais. Dychwelasom drachefn erbyn tri o'r gloch i'r Capel-ar-Nawf, lle y pregethodd y Parch. Mr. Roberts, o Friste, oddiwrth Titus ii. 11, 12. Nid wyf yn cofio yn fynych am y fath bregeth erioed. Dangosodd, I. Drueni morwyr yn eu meddwdod-tyngu, anlladrwydd, a dirmyg rhyfygus ar angau. II. Addasrwydd gras Duw, sef yr efengyl, ar eu cyfer. III. Rhwymedigaethau eglwys Duw i ymdrech ar eu rhan. O mor fywiog, nerthol, ac addas y llefarodd; ond yr oedd ei iaith yn uchel. Effeithiodd ei araeth efengylaidd ar y dyrfa, a chasglwyd £48 yn ychwaneg.
5. Dyma foreu hyfryd-yr hin yn deg odiaeth. Aethum heddyw i St. Anne, Blackfriars, lle yr oedd Professor Farish i bregethu yn mhlaid y Church Missionary Society, a phregethodd oddiwrth Luc xi. 2; i'm tyb i, yn dra rhagorol a da. Yma cyfarfum a'm cyfaill Owen Williams, ac aethom yn nghyd tua Freemason's Hall, lle'r oedd y gymdeithas yn cynnal ei chyfarfod blynyddol. Yma yr oedd Arglwydd Gambier yn y gadair. Ar ol darllen hanes gweithrediadau'r gymdeithas am y flwyddyn a aeth heibio, gan y Parch. Mr. Pratt, llefarodd y gwŷr canlynol ar yr