yn y gwaith. Teimlais fy meddwl yn dra diolchgar am y nodded, y tiriondeb, y rhyddid, a'r hynawsedd a gefais oddiwrth Dduw a dynion. Treuliais lawer o fy amser i ffarwelio a fy anwyl gyfeillion a'm cydnabod y Cymry."
Yn ysbaid ei arosiad y tro hwn yn Llundain, bu yn bresennol mewn un-ar-hugain o gyfarfodydd cyhoeddus, a gwrandawodd chwech-ar-hugain o bregethau yn yr iaith Saesoneg.
Tra yn y brif-ddinas, yn ol taer ddeisyfiad eglwys Llangeitho, ysgrifenodd atynt lythyr: rhan o hono yn unig sydd ar gael yn bresennol.
At holl aelodau'r Gymdeithas arferol o ymgynnull yn enw'r Arglwydd yn Nghapel Gwynfil.
"ANWYL FRODYR A CHWIORYDD YN YR EFENGYL,
Nid anghof o honoch, ac nid anffyddlondeb i'm haddewid, ydyw yr achos na buaswn wedi ysgrifenu atoch cyn hyn, ond diffyg amser a chyfleusdra. Mewn perthynas i'r gwaith yn y ddinas fawr hon, yn mhlith ein cydgenedl y Cymry, mae yma dorfeydd mawrion yn ymgynnull, cannoedd lawer ar unwaith bob Sabbath, a'r gwrando yn astud a hardd. Mae yma gynnulleidfa fawr o aelodau proffesedig, mewn cyfammod eglwysig a'u gilydd yn yr Arglwydd; llawer o sancteiddrwydd a heddwch yn mhlith y brodyr, a theyrnas Iesu yn ennill tir. Yr ydwyf yn hyderu y gallaf ddywedyd heb wag-ymffrost fod yr hyfrydwch a'r rhyddid yr ydwyf yn ei fwynhau yn ngwaith yr Arglwydd, yn peri i mi ar brydiau fod yn ddiedifeiriol am gefnu ar fy anwyl berthynasau a'm cyfeillion hoff yn Nghymru, a