dyfod i'r lle hwn; gadawaf y canlyniad i'r Arglwydd y llafur sydd i mi, a'r llwydd, y clod, a'r gogoniant iddo yntau. Frodyr caredig, y mae dau beth ag sydd o'r gwerth a'r pwys mwyaf i bob cangen o eglwys Crist ar fy meddwl, sef sancteiddrwydd a heddwch; am hyny y cynghora yr Apostol at yr Hebreaid, ‹ Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd.'
"Ond yn 1af, Am sancteiddrwydd. Mae hwn, fel y dywed y Salmydd, yn gweddu i dŷ'r Arglwydd byth; ac, os yw yn weddus ei fod, pa mor anweddus yw bod hebddo! Nid oes dim yn wir yn gweddu i'r tŷ hwn ond sancteiddrwydd: gwarthruddo y tŷ mae pob peth croes i hyn. Mae perchen a phennaeth y tŷ yn sanctaidd, yn hanfodol, yn hollol a thragywyddol sanctaidd; mae holl waith y tŷ yn sanctaidd, ac y mae holl gyfreithiau y tŷ hwn yn berffaith sanctaidd. Mae sancteiddrwydd yn gweddu i'r pregethwr yn y pulpit, ac i'r gwrandawyr tano. Mae yn gweddu i'r plant, y gwŷr ieuainc, a'r tadau. Mae yn gweddu nid yn unig yn y tŷ, ond i'r tŷ, pa le bynag y byddom, a pha beth bynag a wnelom; ac nid yn unig yr oedd yn gweddu gynt, ond y mae yn gweddu yn bresennol, ac fe fydd yn gweddu byth. Tŷ Brenin yw hwn, fy mrodyr, a dyma'r lifrau a berthyn i weision y Brenin, sef sancteiddrwydd, sancteiddrwydd yn egwyddorol yn y galon ac yn ymarferol yn y bywyd; am hyny bydded yr argraff hon arnoch oll, Sancteiddrwydd i'r Arglwydd. "2il. Heddwch, heddwch fyddo o fewn dy rag-fûr di, Llangeitho."
"Hyd yma," medd y cyfaill caredig, a'i danfonodd i ni, "y mae ar gael, er ein cywilydd a'n colled." Yn mhen ychydig amser ar ol ei ddychweliad o