danaf o flaen y drugareddfa, yn ngwyneb fy amgylchiadau cyfyng, yn y tònau garw, yn cael fy chwythu gan wyntoedd creulon. Mae hiraeth arnaf am i'r diwrnod ddyfod i fynu i gael troi fy ngwyneb tua ngwlad fy hun, at fy nheulu ac at fy anwyl gyfeillion. Nid wyf eto wedi prynu y llyfrau a nodasoch, ond byddaf yn sicr o wneud cyn ymadael, os ydynt i'w cael ym Llundain.
"Dymunaf fy nghofio yn y modd mwyaf caredig at bawb o'r brodyr, ac yn neillduol at eich anwyl gyd-mares, y plant oll, a'r ddwy Miss Evans o Argoed.
"Mae yr eglwys hon oll yn dymuno eu cofio yn garedig atoch.
Hyn yn fyr iawn oddiwrth eich brawd gwael, sydd o flaen y gwyntoedd gwrthwynebus,
DAVID EVANS.
Yn ystod y blynyddau hyn ganwyd iddo amryw blant, y rhai a fuont feirw yn ieuainc iawn, oddigerth dwy ferch, Mary a Hannah, y rhai ydynt fyw yn bresennol.