Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dannau heb eu gosod yn yr un cywair, ac, yn lle gwneuthur peroriaeth gywir a soniarus, yn peri yr annghydsain anhyfrytaf trwy yr holl dywysogaeth. Diau o leiaf, wedi i'r peth dderbyn cymeradwyaeth cyffredinol y corph trwy eu cynnrychiolwyr cyfreithlawn, nad oes gan aelodau neb rhyw gorph neu enwad arall hawl nac esgus yn afreidiol, "i ymyraeth â materion rhai ereill," oblegid "i'w Harglwydd eu hun y safant neu y syrthiant." Anmhosibl i unrhyw nifer o ddynion fyned yn nghylch gwaith mor bwysig gyda mwy o arafwch, difrifoldeb, ac ofn duwiol, nac a ddangoswyd gan y gwŷr enwog a bennodwyd i barotoi Cyffes Ffydd y Trefnyddion Calfinaidd. Ymddengys i'r peth gael ymdrin âg ef, a'i benderfynu ar ran y Deheudir, mewn Cymdeithasiad a gynnaliwyd yn Llangeitho, Awst y 7fed a'r 8fed, 1822, lle y pennodwyd y gweinidogion canlynol i fod yn gynnrychiolwyr dros y rhan hono o'r dywysogaeth, sef y

PARCH. JOHN WILLIAMS,
EBENEZER MORRIS,
DAVID CHARLES,
JOHN EVANS,
ARTHUR EVANS,
THOMAS JONES,
EBENEZER RICHARD.

Pennodwyd o'r Gogledd i'r un achos, y

PARCH. JOHN Roberts,
JOHN ELIAS,
JOHN HUMPHREYS,
JOHN HUGHES,
MICHAEL ROBERTS,
HUMPHREY GWALCHMAY.