Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am y dull yn mha un y cwblhawyd y gorchwyl pwysig hwn, bydd yn dda gan lawer ond odid weled yr hanes ganlynol o dan law gwrthddrych y cofiant hwn:—

Mewn Cymdeithasiad Achlysurol a gynnaliwyd yn Aberystwyth, Mawrth y 13eg a'r 14eg, 1823, y bu'r ymdriniaeth ganlynol:

Yn ol y penderfyniad yn Nghymdeithasiad Llangeitho, Awst y 7fed a'r 8fed, 1822, dechreuodd cynnrychiolwyr Deheubarth a Gwynedd ymgynnull yn nghyd nos Lun, y 10fed. Ond ni ddechreuasant ar eu gwaith pwysfawr hydd dydd Mawrth yr 11eg, pan y cyfarfuant yn nhŷ Mr. Robert Davies, Heol-y-Porth-Tywyll-Mawr, mewn goruwch-ystafell eang ac addas iawn. Dechreuwyd am 9 o'r gloch trwy ddarllen a gweddio gan John Roberts, Llangwm; a'r personau yn gwneuthur yr eisteddfod i fynu oedd y rhai canlynol:

Y PARCH. JOHN WILLIAMS, LLEDROD, Cymmedrolur.
EBENEZER MORRIS,
DAVID CHARLES,
THOMAS JONES,
JOHN ROBERTS,
JOHN ELIAS,
JOHN HUMPHREYS,
JOHN HUGHES,
MICHAEL ROBERTS.

HUMPHREY GWALCHMAY,
Ysgrifenyddion.
EBENEZER RICHARD,

Yn 1af, Cymerwyd rheolau a dybenion y cymdeithasau neillduol tan sylw; ac ar ol eu darllen trosodd