Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanbedr yn sefyllfa addas i wneuthur yr ymosodiad. Gan hyny yr ydym yn deisyf arnoch anfon y nifer fwyaf a fyddo yn bosibl i chwi hebgor o eich tal-filwyr, eich llym-saethwyr, ac eich tân-belenyddion, wedi eu trwsio a'u harfogi yn Nhŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.' Chwi a wyddoch, frodyr, fod cyngreiriad diffynawl ac ymosodawl rhyngom ni a chwithau, a gwyddom y byddai yn ddrwg dros ben genych fod eich brodyr gweiniaid yn y Deheubarth yn cael eu baeddu a'u dadymchwel; a phe byddai unrhyw orchest arnoch chwithau yn Ngwynedd, ni thrigai ewin o honom ninau gartref heb ddyfod i'ch cynnorthwyo a'n holl egni."

Hyd yma yr ydym wedi dyfod o hyd i'r llythyr hwn, a ysgrifenwyd gan Mr. R. fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Er mwyn coffadwriaeth y gwr enwog a'i hysgrifenodd, ac fel dangosiad o bryder effro Mr. Richard rhag mewn un modd golli cariad ei frodyr, rhoddwn yma y llythyr canlynol, yr hwn a ysgrifenodd Mr. Morris mewn ateb i ryw achwyniad haner-difrifol oddiwrth ei gyfaill, am fyned heibio Tregaron yn un o'i gyhoeddiadau diweddar.

CAREDIG GYFAILL,

Derbyniais eich llythyr y 25 o'r mis hwn, ac yr oedd yn synedig i mi eich bod yn meddwl drwg am eich cymmydog, ag yntau yn trigo yn ddiofal yn eich ymyl. Nid oedd genyf fi un bwriad fyned heibio Tregaron, oherwydd un gradd o oerfelgarwch, nac wedi cael yr achos lleiaf o dristwch oddiwrthych chwi