Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

cadair. Os sonir am awdurdod,—y drychfeddwl o lywodraeth a threfn—y mae hwnnw yn cyfarfod yn yr arwyddlun yma—awdurdod y gadair. Os meddylir am anwyldeb a serch teuluaidd, y mae hwnnw, hefyd, yn cronni o gwmpas cadair,—cadair mam a thad, cadair oedd yn orsedd, yn allor, yn esmwythfainc yr un pryd.

Y mae y drychfeddyliau hyn, a llawer mwy, yn cyniwair o gwmpas y testyn. Bellach, rhoddwn dro yn mysg y cadeiriau, gan edrych arnynt fel delweddau o fyd y meddwl, fel arwydd gweledig o ryw ddrychfeddwl ac y mae dyn a chymdeithas yn ei werthfawrogi. Er mwyn rhoddi "terfyn ar y diderfyn," ni a'u dosbarthwn fel hyn:—

I. CADAIR CREFYDD.

II. CADAIR GWLADWRIAETH.

III. CADAIR LLENYDDIAETH.

IV. CADAIR YR AELWYD.