Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD II.

CADAIR CREFYDD.

Y MAE a wnelo y gadair â chrefydd er yn fore. Nid awn i olrhain y crefyddau paganaidd: digon ydyw crybwyll am grefydd y Beibl,—Iuddewiaeth a Christionogaeth, yr Hen Oruchwyliaeth a'r Newydd. Yr oedd yn y synagog, yn nyddiau yr Iesu, yr hyn a elwid yn "gadair Moses," a mawr oedd y dyhead am dani. "Yn nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid." Nid oes cyfeiriad uniongyrchol ati yn yr Hen Destament. Derbyniodd ei henw drwy draddod-