Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

iad, am mai Moses ydoedd deddf-roddwr mawr y genedl. Dyna gadair y Rabbi Iuddewig. Ond yn ol tystiolaeth yr Iesu, yr oedd ei hawdurdod wedi diflannu. Cadair wag ydoedd. Nis gallai cadair Moses, fel arwydd gweledig, wneuthur dim.

Wedi hyn daeth Cristionogaeth fel anadl bywyd i fysg yr esgyrn sychion. Ar y cyntaf nid oedd yn perthyn iddi arwyddluniau allanol. Ysbryd a bywyd ydoedd; ond y mae'n rhaid i bob ysbryd wrth ryw gymaint o gorph yn y byd hwn. Ymwisgodd ysbryd Cristionogaeth mewn corph o gymdeithasau, sefydliadau, a swyddogaethau. Ac yn mysg y swyddogaethau hynny, daeth eiddo yr esgob i feddu uwchafiaethesgob Rhufain, Carthage, Alexandria, &c. Perthynai i'r swydd honno ei chadair,—cadair yr esgob; ac mewn canlyniad, daeth yr eglwysi oeddynt yn ganolbwynt mewn talaeth, i gael eu hadnabod fel eglwysi cadeiriol—cathedrals—ac y