dydd y priodasant yn Nghastell Caerdydd." Gorchwyl digon cymhwys i'w wneyd ar ddydd priodas, gallwn dybied, oedd cadarnhau gwasanaeth gwerthfawr y Ford Gron!
Yn y dyddiau fu, ychydig ydoedd rhif y beirdd cadeiriol, ac nid ydoedd yr un bardd yn ennill mwy nac un neu ddwy o gadeiriau mewn oes. Erbyn heddyw, y mae genym feirdd y pum' cadair; ac yn gymaint a bod eisteddfodau lleol yn cysylltu cadair â'u testynau barddonol, y mae gan rai brodyr diwyd ddigon o gadeiriau, ysgatfydd, i gychwyn masnachdy dodrefn! Ond gydag eithriad neu ddwy, y mae cadair yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn gyfyngedig i'r mesurau caethion—i'r awdl. Y canlyniad ydoedd, fod nifer o brif feirdd Cymru, yn yr amser aeth heibio, heb eu hanrhydeddu yn y ffordd hon. Un ohonynt ydoedd Ceiriog, un arall ydoedd Islwyn. Ystyrir y ddau, bellach, yn mysg awenyddion penaf ein gwlad, ac y mae