Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

aruthrol. Dyna un peth sydd yn cysylltu difrifwch a chadair y golygydd. Dylanwad amhersonol ydyw, i raddau pell, ond y mae yn ddylanwad er hyny. Y mae y gynulleidfa sydd yn darllen ac yn astudio y bregeth yn fwy, lawer pryd, nac eiddo y darlithydd cyhoeddus mwyaf poblogaidd. Ac y mae temtasiynau y swydd yn gryfion ac yn danbaid. Hud-ddenir y newyddiadurwr, drwy gyfrwng aur ac arian, i ddarn-gelu ffeithiau, ac i werthu ei gydwybod er mwyn gwobr. Ond y mae genym wyr wrth lyw y wasg nas gellir eu prynu yn y modd hwn. Y mae Mr. Fred. A. Atkins, yn un o'i lyfrau dyddorus, yn adrodd hanes George Jones, perchenog y New York Times. Yr oedd yn gyfaill i Horace Greeley, yr oedd y ddau yn cychwyn eu prentisiaeth tua'r un adeg. Argraffwyr oeddynt, ac ymladdasant frwydr galed ag anffodion boreu oes. Daeth y ddau i New York, a gwnaethant