Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

chwysu ei ymenydd gyda'r traethodau cawraidd hynny sydd wedi cynhyrfu ac angerddoli cynifer o feddyliau eraill. A oeddynt yn gadeiriau drudfawr ac addurniadol? Nac oeddynt. Cadeiriau celyd, plaen, oeddynt, wedi eu bwriadu nid i helpu dyn i gysgu, ond i'w gadw yn effro. Yr ydym yn falch o gael ymollwng i'r gadair esmwyth ar ddiwedd y dydd, pan wedi blino, ac yn lluddedig gan y daith. Ond nid oes neb hyd yma wedi llwyddo i wneyd gwaith bywyd oddiar easy chair.

Yn nghofiant y diweddar Stowell Brown, ceir y cynghor a ganlyn:—"Gochelwch yr esmwythfainc." I efrydydd y rhoddwyd y cynghor ar y dechreu, ac y mae yn anhawdd