myfyrio a wnaethai yn ddibaid. Ond, yn fynych, y mae dwy awr neu dair a gysegrir i astudiaeth o ganol gorchwylion bywyd, yn llawer mwy bendithiol i ddyn na meddu y pethau y mae llu o bobl ieuainc yn tybied mai hwy ydynt anhebgorion llwyddiant meddyliol. Gwell o lawer, fy nghyfaill ieuanc, i ti yn yr ystyr uchaf, ydyw yr ystafell gyffredin, y bwrdd bach, y ganwyll ddimai, y gadair galed, a'r ychydig lyfrau a ddarllennir gennyt yn awr, na phe y dodid di mewn ystafell wech, o flaen bwrdd mahogany, ac ar y sofa fwyaf melfedaidd y gellid meddwl am dani. Cred a chofia gynghor y dyn doeth a da a nodwyd yn barod. Melldith llu o efrydwyr yn y dyddiau hyn ydyw esmwythfeinciau.
Y GADAIR WAG. Y mae yna ddarlun adnabyddus yn dwyn yr enw uchod,—"Y gadair wag." Cadair Charles Dickens ydyw, yn Gad's Hill. Nid oes dim yn hynod ynddi fel