Tudalen:Cadeiriau Enwog.djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

Yn mŵg y bibell bêr yn ddigon pell,
Tra sugnai drwy ei phig feddyliau gwell.
Eisteddai mam i wnio o flaen y tân,
Neu ynte i olrhain yr Ysgrythyr Lân.
Ac ambell air i nhad, neu sèn i mi
Am guro cefn y gath, neu dynu clust y ci;
Fy mrawd a'm chwaer ar fainc, a rhwng y ddau
Y forwyn henaf oedd yn prysur wau,
Ychydig o'r naill du 'roedd llencyn brèc
Yn dysgu y forwyn fach yr A BC;
A minnau ar fy stôl yn ddigon siwr
Rhwng mam a nhad, nid y distadlaf wr
Y tanllwyth mawr yn taflu siriol wres,
Nes oeddwn bron a mygu gan ei dês.
O maes fe glywir storm, gauafaidd swn,
Plith oeraidd fref y fuwch, ac udiad cŵn;
Ffenestri a drysau gan y gwynt a gryn;
Yn ngwyll y nos fe welir eira gwyn,
A gwlaw a chenllysg mawr heb drugarhau
O bryd i bryd yn curo'r gwydr brau.
Ni wna y gwynt a'r gwlaw ac oll yn nghyd
Ond gwneyd teimladau'r teulu yn fwy clyd;
Ar ol pob rhuthr fe grynhoa y rhes,
Yn nes yn nghyd, ac at y tân yn nes.
Yn fuan dygir yr hen Feibl mawr
A'i amgudd gwyrdd oddiar y silff i lawr;
Fy nhad a'i gadach dŷn y mân-lwch draw
Oddiar ei spectol, yna gyda llaw