Ofalus, try ddalenau'r Beibl cut
Sy braidd yn waeth o'r mynych droi a fu.
Ac wedi darllen rhan o'r Dwyfol Air,
A sylw bychan arno, plygu wnair;
A nhad ddyrchafa ei grynedig lef,
Mewn gweddi a mawl teuluaidd tua'r nef.
Mi glywais fwy hyawdledd lawer trô,
Ond neb ni cherais ddilyn fel y fo;
Yn fyr, ond yn gynwysfawr, ac yn llawn,
O buraidd ysbryd, os nid mawredd dawn.
|
Ond o'r holl böetau, nid oes neb wedi
ymdroi gyda'r aelwyd yn fwy na Longfellow.
Bardd yr aelwyd ydyw ef; ac nid oes hyfrytach
cwmni ar hirnos gauaf, pan y byddo dyn yn
gweled gweledigaethau yn y fflam, ac yn
clywed anthem yr ystorm yn ymdaith yn amlder ei grym. Yr aelwyd, ebai Longfellow,
ydyw y Garreg Filldir Aur, a chanolbwynt
serch ydyw y gadair ger y tân:—
Ar yr aelwyd yr eistedd henafgwyr methedig,
A gwelant adfeilion dinasoedd, yn lludw y marwor;
Gofynnant yn brudd,
I'r gorphenol am yr hyn na ddychwela.
|