PETHAU TLWS.
Dacw alarch ar y llyn, Yn ei gwch o sidan gwyn; Dyma afal melyn, crwn,— Anrheg mam i mi yw hwn. Dacw rosyn ar y pren, Capan coch sydd ar ei ben. Dyma faban yn ei grud,— Perl ei fami—gwyn ei fyd.