Hi edy lwybyr llaethog Lle bu'r diferion gwlith: Gall drin y llaeth a'r 'menyn, Gall hefyd drin y byd; Mae gwaddol yn ei dwylo, Ac iechyd yn ei phryd. Llawenydd bro yw Llio, Ac erys gwrid y wawr Ar ddwyfoch merch yr Hafod Pan elo'r haul i lawr.