Neshâi dy bobl atat
Am na waherddit hwy:
Ni ddrylliaist galon neb erioed,
Ond rhwymaist fil a mwy.
Ni ddaeth i'th fryd diniwed
Erioed i werthu 'r gwir;
Ond buost ddyfal yn ei hau,
A Duw'n bendithio 'r tir.
Mor syml oedd dy efengyl,
Mor weddaidd oedd dy draed;
Dy bregeth oreu oedd dy fyw,
A thwyll o'th fewn ni chaed.
A'r Eifl o dan eu blodau,
A'r meysydd dan eu grawn,
Hebryngem di i'th noswyl hir,
Yng nghynnar wyll y nawn.
Ni fynnai'n serch dy ollwng
Ac wylem bawb yn lli;
Ond nid oedd deigr ar wedd y dorf
Oedd yn dy dderbyn di.