A chennyt yr ydoedd Cyfrinach fud, Wnai dy galon yn drom, Er d'ysgafnder i gyd.
Gerllaw'r oedd fy mychan, Fy nelw a'm llun, Oedd iti mor annwyl A'th enaid dy hun; Ceisiai dy gusan, O fynwes ei fam; Ond ni roist un iddo, A gwyddem paham.
Ni pheidit â'i garu, a'th galon yn ddwy,
Ond ei garu 'n rhy fawr i'w gusanu byth mwy.