Tudalen:Caniadau'r Allt.djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

CYMRU ANNWYL.

Pa wlad sy fel Cymru annwyl?
Mae'i charu yn hawdd i mi;
Dros hon bu fy nhadau farw,
O serch at ei herwau hi:
Mi wn fod ynysoedd mwynach,
A broydd o decach llun;
Ond nid oes i galon Cymro
Un fro fel ei henfro 'i hun:
Caraf ei hen fynyddoedd,
A'r chwa dros ei thir a chwyth;
Caraf ei henw yn agos a phell,
A'i hiaith a siaradaf byth.

Pa le mae y gwŷr coronog
Fu'n ceisio ei llethu gynt?
Nid oes ond eu henwau'n aros,
A'u cestyll yn gaerau'r gwynt:
Fe wybu pob balch ohonynt,
A gwybu eu dewraf wŷr,
Fod bannau fy mro yn gedyrn,
A chalon ei llanciau'n bur:
Caraf ei hen fynyddoedd,
A'r chwa dros ei thir a chwyth;
Caraf ei henw yn agos a phell,
A'i hiaith a siaradaf byth.

Pa wlad sy fel Cymru annwyl,
Lle'm dysgwyd i garu Duw?
Po bellaf y bwyf ohoni,
Agosaf i'm calon yw:
Mae adlais ei hen alawon,
A'm swynodd o gylch fy nghrud,