Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/35

Gwirwyd y dudalen hon

O! mor goch yw ein haelwydydd,
Gan y gwaed dywalltodd hwn,
Bacchus greulawn—deyrn anedwydd,
Rhwymwn di o dan dy bwn.

Mae yr arfau yn ein dwylaw,
Ferched anwyl, gloewn hwynt;
Peidio yw eu henw hylaw,
Peidio yfed, dyna'r pwynt;.
Peidio cym'ryd, peidio rhoddi,
Laddai fedd'dod yn y fan,
Bacchus druan foddai'n fuan,
Ac ni welai byth mo'r lan.

NODDFA A NERTH

NODDFA a nerth sydd yn ein Duw,
Mae'r frwydr yn ei ddwylaw Ef;
Noddfa a nerth, O! feddwyn clyw,
Dyrchafa ato'n awr dy lef;
Estyn ei fraich anfeidrol werth,
Dyrchafwn ninnau weddi'r ffydd,
Cysylltwn weddi yn y nerth,
Daw'r gwannaf o'i gadwynau'n rhydd.

Concwest ni ddaw o'r dwyrain dir,
Nac o'r anialwch cras-boeth nen;
Nac o'r gorllewin chwaith yn wir,
Duw sydd yn barnu, Ef sydd ben;
O'i enau Ef, ein Duw a'n Tad,
Rwym y cymylau, sych y môr;
Gwaeddwn ar Dduw i sobri'n gwlad,
Cydiwn ein llef wrth allu Ior.