Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/62

Gwirwyd y dudalen hon

Y wyneb hawddgaraf; a raid ymfoddloni
I weled dy roddi dan briddell mor drwch?
A raid i mi'th adael i orwedd dy hunan
Yn oer fel y ddaear ynghanol y llwch?
Y galon anwylaf a gurodd rhwng dwyfron,
A redodd yn ffrydlif o gariad i'm rhan;
O! fynwent, os gwyddost beth ydyw trugaredd
Gad i mi a mhriod gael bod yr un man!

"Y dwylaw wasgarodd y fath garedigrwydd,
Oedd megis tyneraf awelon yr haf;
A'r wen ydoedd megis ymdaeniad y wawrddydd,
Ei denol gyfaredd byth mwyach ni chaf:
Y llais a chwareuai ar dannau fy nghalon,
O angau creulonaf! ti fuost yn erch,
Pan allit ti ddodi dy lenni alaethus
Dros lygaid belydrodd fath foroedd o serch.

"Fy nydd a fachludodd uwch mangre'th or-
weddfan
Pa fodd y dirwynir y gweddill i ben?
A raid i mi deithio heb haul yn fy nwyfre,
A dim ond cymylau yn llenwi fy nen?
A raid i mi hwylio hyd for amgylchiadau,
Heb lywydd i wylio y llanw a'r trai?
A raid im wynebu'r tymhestloedd fy hunan,
A threulio'r blynyddoedd heb ynddynt fis
Mai?

"Y mis godidocaf o fisoedd y flwyddyn,
Wrth edrych o'm deutu ar dde ac ar chwith;
Adfywiad ganfyddir lle bynnag y syllir,
Mae bywyd yn gloewi yn llygaid y gwlith;
wastraff ar fywyd! 'Rwyf bron cenfigenu
Wrth weld y distadlaf flaguryn erioed,
A darllen yr argraff o fywyd sydd arno
Yn myned yn aberth i wadn fy nhroed!