RHAGDRAETH.
PRIN y mae'n rhaid i 'Drysor Aur' o ganiadau unrhyw wlad wrth ragdraeth,—yn enwedig 'trysor' o ganiadau ysgeifn a syml fel y rhai hyn. Daw canig fyw o hyd i galon dyn heb i feirniad lafurio i glirio'r llwybr; yn wir, mesur ei gwerth a'i pherffeithrwydd ydyw cyflymder a rhwyddineb ei dylanwad ar y meddwl a'r serchiadau. Er hynny erys pob golygydd, i ryw fesur, o dan rwymedigaeth i gyfiawnhau ac egluro ei amcanion wrth gyflwyno i'r cyhoedd gasgliad o ganiadau a ddetholwyd ganddo, yn bennaf, yn ol ei farn a'i chwaeth ei hun. Dichon y dywed ambell un mai Telynegion Cymru y dylesid galw casgliad y ceir ei gynllun yn y Golden Treasury of Songs and Lyrics o waith Mr. Palgrave—casgliad sydd erbyn hyn yn un safonol, 'heb ry nag eisiau,' ymhlith y Saeson. Ond, rywfodd, prin y mae'r gair 'telyneg,' er ei brydferthed, wedi ennill iddo'i hun le cadarn yn iaith arferedig hyd yn oed llenorion Cymru. Awgryma 'telyneg' i Gymro berthynas llawer agosach ag offeryn cerdd hollol adnabyddus nag a wna'r gair lyric i'r Sais. Rhyw offeryn dieithr ac anelwig i feddwl Sais cyffredin heddyw ydyw lyre, tra y mae'r delyn eto'n gynnefin ac anwyl gan y Cymry. Fe ganai Bardd Nantglyn gan' mlynedd yn ol,
'Meddyges dda i feddwl gwan
Yw'r delyn gan y Cymry;'