Cwcwll-lwyd edn, cu, call-lais,
Ym myned mewn lludded llwyr
A chywydd i entrych awyr!'
neu mewn tarawiad fel hwn,
Un ydwyf, ban bwyf heb Wen,
Afrywiog, heb fawr awen;
Heb gof, heb ynof enaid
Na rhith o'r synwyr fo rhaid.
Gyda Gwen wy'n ddibenyd,
Gwna hon fi'n galon i gyd,
A'm cân yn rhedeg i'm cof
Yn awen winaidd ynof!"
Drachefn, pan y deuwn ar draws englyn fel hwn o waith Goronwy Owen,
Mae cystudd rhy brudd i'm bron—'r hyd f' wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!'
yr ydym ar unwaith yn cydnabod fod y lyric note—y cywair telynegol—mor glir yn y cynghaneddion hyn ag mewn unrhyw bennill rhydd.' Rhyfygus yw'r sawl a ddirmygo'r gynghanedd yn wyneb llinellau fel hyn. Y gynghanedd yn llyffethair, yn wir! Bron na ddywedwn fod y gynghanedd, o'i hiawn arfer, yn rhan hanfodol o athrylith barddoniaeth Gymraeg. Nid oes dim mor 'anorfod,'—Ieuan Glan Geirionnydd biau'r gair,[1]—dim
- ↑ Gwel tudal 129,—'P'le mae'r beirddion mwya'u clod,
Anorfod, ond yn Arfon?'Nid oes gwell gair yn y Gymraeg i gyfleu un o hoff eiriau (gair ystrydebol o'r bron erbyn hyn,) y beirniaid Seisnig—inevitable.