Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CAN Y MAI.
Rhoes fy mrŷd a'm serch yn llwyr,
A Duw a'i gwyr a'm gwired,
Ar garu'r fwyn hygar ferch,
Ba edwyn serch ei hired.
Rhyfedd ni cheir bun i oed,
A gweled coed cydeced;
Blodau hafaidd hyd y llawr,
A gwych y pawr a'i lased.
Canes côg ers llawer dydd,
A phêr yngwŷdd ei chlywed;
Llawen mwyalch a'i balch big,
Ni chân yngwig ei phered.
Darfu gyrwynt tros frig gallt,
A'r tonddwr hallt a ddofed;
Daeth oes cynnes hafdes hardd,
Ni chanes bardd ei cheined.
O daw Llio i oet dydd,
A chael yngwydd ei gweled,