Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gweiliaf dŷ a gwely dail
Dan wiail, dyna' neued.
O daw'r ferch, dyn wiwserch wyl,
Em anwyl, yw' namuned,
Esgud awn i lasgoed îr,
A llenwir serch ein lloned.
Gwilym Tew (circa 1450.)
BOREUDDYDD.
Gwrandewch ganmol brig y don,
Iraidd wynion ddeurudd,
Gorlliw ewyn ymlaen lli,—
Fe'i gelwir hi Boreuddydd.
O baem noswaith niwlog, blin,
Yn rhodio gerwin fynydd,
Mi a law'nychwn uwch y rhiw
Pan welwn liw Boreuddydd.
Ni ddymunwn hirddydd ha',
Pan fydde lasa'r dolydd,
Ond cael rhodio 'r hyd y rhai'n,—
Myfi a'r fain Foreuddydd.