Rhyddid i bawb a rodier—yw rheol
Ei athrawon tyner;
Yn eu cain iaith datganer
Y ddilys ffydd—laissez faire !
Rhodder i eiddo ryddid—i elwa
Lle gwŷl angenoctid;
Ac i'r tlawd, O, pob siawns bid—
Iawnach, callach nis gellid.
Cafwyd athrawiaeth gyfiawn—
Seinied pob sant "pawb ei siawns!"
Rhyfeddod o adnod yw,
Athrawiaeth odiaeth ydyw.
Athrawiaeth iachus, a grymusaf
Er dwyn y gweithiwr dan iau gaethaf,
A thwyllo llibin werin araf
O ffrwyth ei llafur a'i chur chwerwaf,—
Canys dyna'r hawddgaraf—alluoedd
A ddwg ei filoedd i gyfalaf.
O dduw cyfoeth, doeth wyt ti;
On'd oedd elwach d'addoli?
Ac nid duw dig, eiddig wyd;
Duw odiaeth haelfryd ydwyd.
Yn lle cenfigen y Llall,
Ti ni ddori Dduw arall.
Dywaid y Llall heb dewi—