Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwerth bob rheufedd a feddi
Yn y fan, a chanlyn fi."
Haws i'r camel bwrnelaidd
Yrru naid drwy grau nodwydd.
Nag i ŵr ag aur gyrraedd
I nwyfiant teyrnas nefoedd."

A chyfarch clerigol urddasolion—
"Chwi ragrithwyr, twyllwyr, ffyliaid, deillion,
Cadw rhyw ffurfiau, defodau ynfydion,
Llu o fân wyliau, a'ch holl fanylion,
A gadaw'r pethau mawrion—bendigaid—
Rhannu i weiniaid, gwneuthur barn union.

Ni laddasech chwi'r proffwydi gwirion?
O, ragrithwyr, twyllwyr, ffyliaid, deillion,
Dywedaf, chwai'r haeraf, mai chwi'r awron
Ydyw cywir hil eu lleiddiaid creulon,
Ufuddaf etifeddion—i'ch tadau,
Ac i'w traddodiadau hwythau weithion."

Och! bwy a'i hachubai Ef?
Oni haeddai ddioddef?

Pa esgob coeth cyfoethog—a drôi draw
Drem o'i esmwythbluog
Gerbyd glanwedd mawreddog
Tua rhyw Grist ar ei grôg?