Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A chlir felyslais ar ei min
A glywir megis cân
Y gloyw ddŵr yn tincial dros
Y cerrig gwynion mân.
A chain y seinia'r hen Gymraeg
Yn ei hyfrydlais hi;
Mae iaith bereiddia'r ddaear hon
Ar enau 'nghariad i.
A synio'r wyf mai sŵn yr iaith,
Wrth lithro dros ei min,
Roes i'w gwefusau'r lluniaidd dro,
A lliw a blas y gwin.
- CWYN YR UNIG
Dacw'r coedydd gyda'i gilydd
Yn rhyw ddedwydd lu,
Minnau yma 'n gwywo'n ara'
Mewn unigedd du.
Draw mae'r adar man yn trydar
Oll yn llon eu llef;
Pob aderyn gan ei emyn
I'w anwylyd ef.