Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dyna seiniau llawen leisiau,
Clywaf bawb yn llon;
Minnau'n ddistaw wedi 'ngadaw,
Trom a thrist yw 'mron.
Y CRYTHOR DALL
Pa fodd y cluda'r awel
Ryw leddf ac isel gainc
Trwy nwyfiant a llawenydd
Heolydd Paris Ffrainc?
Hen grythor dall ac unig
O ryw bellennig fro
Sy'n canu dwys acenion
Ei dirion henwlad o.
Fy nghyfaill, pe baut yno
Yn gwrando ennyd awr,
Ti glywit "Forfa Rhuddlan,"
Ti glywit "Gyda'r Wawr;"
Y dyrfa lon ddistawai,
Arafai ar ei hynt;
Erioed ni chlywsynt ganu
Mor brudd a pheraidd cynt.