Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond wedi deffro gyda'r dydd,
Mi chwerddais,— canys pwy
Dybygit oeddynt?— Wel, tydi
Dy hunan oedd y ddwy !


SYR LAWRENS BERCLOS

'R oedd Cymru wen yn dechreu 'mysgwyd
Dan gadwyni heyrn y Sais;
Od oes raid i'r Sais orthrymu,
Oes raid i'r Cymro ddioddef trais?
"Na raid," medd Glyn Dẁr yn flyrnig,
A chododd Cymru wrth ei lais.

Yr adeg hon, 'r oedd gwr bonheddig
Yn tramwy Cymru gyda'i was;
Gŵr anarfog oedd, ac estron,
Ond fe hoffai, ym mhob plas,
Glywed am Lyn Dŵr a holi
Pwy oedd ei ffrind a phwy ei gas.

Fe ddaeth i blas Syr Lawrens Berclos,
Llefarodd yn nhafodiaith Ffrainc;
A mawr y croeso gafodd yno,
Fe'i rhoddwyd ar yr uchaf fainc;
Hyfryd, hyfryd fu'r ymddiddan,
Llwyr y canwyd llawer cainc.