Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Adwaenai lendid anian,
'Garai'r adar mwynwar mân.'
Mae fy mron innau'n llonni,
Bu'n gyfaill mwyn, mwyn i mi;
A'i eiriau gwâr a gerais,
A'i wên lon, addfwyn, a’i lais.
Cofio'r wyf i mi'r hiraeth
A fu'n wir, yn hir, pan aeth
Ar led i dramor wledydd;
Erchais' wên yr awen rydd
'I mi i ddisgrifio modd
'Y medrus lyfn ymadrodd,
'I mi ganu am gynneddf
' Y llais a'r parabliad lleddf,
'A'r dull digrif bert o wau
'Y dedwydd ddywediadau.'
Cofiais iaith, "ddwbliaith ddyblyg,"
Dafydd wedi Gruffudd Gryg—
"Lluniwr pob deall uniawn,
"A llyfr cyfraith y iaith iawn."

Mwy, Elin, ïe, milwaith,
Na gair fy ngwan egwan iaith,
Nac amcanion dynion doeth,
A gefaist heddyw o gyfoeth.
Am aur clogwyni Meirion,
Neu blasau heirdd, ba les sôn?
Gyfoeth i'w ebargofi,
Werthid er dim wrth d'ŵr di.