Chwiliwch yn ystig ddigoll
Am ryw un drwy Gymru oll,
A geir un mwy rhagorol?
Nid ych yn nes. Dowch yn ôl.
Onid cyfion oedd lonni
Elin deg o'th galon di?
A thrysor i ragori
(O Elin deg, bydd lon di!)
Ar ei ddawn lawn goleuni,
Ar enw a dysg yw'th ran di.
Gwir gariad gwr a geri,
Decaf ystad, gefaist ti.
Oreu gŵr fe ŵyr garu,
Carodd ei "wlad, geinwlad gu";
Yn fore, rhoes i Feirion,
Euraid fro, gariad ei fron;
Gwelodd Wen liw goleu ddydd
Hyd fryniau gwlad Feirionydd,
Ac eilwaith ei holl galon
A'i carodd hi, lili lon.
Morynion bro Meirionydd—
Ba raid sôn?—yn hoywbryd sydd,
Yn hyfryd lân rianedd
Fal blodau'r drain, gain eu gwedd.
Ymysg y drain eiriain, hi,
Y loyw Elin, oedd lili.