Nid yw clod (cefaist glodydd—
Enw a saif, it, Owen, sydd),
Nid yw aur bath, na da'r byd
I'w ddymuno ddim ennyd;
Ac afraid yw ei gyfri
Wrth dy wyn flodeuyn di.
Wele Elin, dy lili,
Yn eiddo teg heddyw i ti.
Onid cyfion oedd lonni,
Owen, o'th fron dirion di?
A mwy fil na'i phryd lili,
A'i golwg ŵyl annwyl hi,
Oedd gariad merch a serchi;
Eithr hynny, daeth i’th ran di.
Gwyddost gyfrin ddoethineb
Lawer, yn llwyr, na ŵyr neb;
A oes dim a wyddost ti
Ar gariad yn rhagori?
Hyfryd yw y fro dawel,
Llyna fan yn llawn o fêl;
Y ddeuddyn hwyliodd iddi,
Hudol oedd, a'm gadael i.
Minnau i'r ddau ddymunaf
Fyth yno wên heulwen hâf;
Bydded tiriondeb iddynt,
A Duw yn nawdd, a hawdd hynt.