Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Feddwl am ryw Forfudd lon
Yn rhywle'n yr oreuwlad,
Rhyw annwyl le'n yr hen wlad?

Ond ofer fu serch Dafydd;
Ni chadd ei Wen wych i'w ddydd.
I'w deg henaint y cwynwys
Ei hynt hir a'i somiant dwys :
"Hir oedi'm serch a'm rhydawdd,
"A byw o hyd ni bu hawdd.
"Dan fy swydd, lawer blwyddyn,
"Gorfod bod hebod, er hyn."

Ni bu'r galed dynged hon
Yn gwbl i'r hen ddisgyblion.
Diameu in, D. M. ŵyl
Oedd ddisgybl na chadd ddisgwyl,
Na'r Pencerdd hoywgerdd yn hir,
Na fynnodd yntau 'i feinir.
A phuraidd Archoffeiriad
Yn mynnu Gwen gymen gad,
Ac Archdderwydd dedwyddair,
A'r dôn leddf, a'r doniol air.
Daeth pob un o honun' hwy
Ymaith o'r Rhyd i dramwy ;
Ac wrth rodiaw yn llawen
Ar ei hynt yng Nghymru wen,
Cyfarfu â'r decaf Forfudd,—
Canu'n iach bellach ni bydd;