Di ball eu mwynhad bellach,
Heb draha 'r un Bwa Bach.
Heddyw ym Môn rhyw sôn sydd
Wrthyf am Arogldarthydd
A aeth ac a wnaeth, yn wir,
Yr un modd a'r rhain, meddir.
Y llonnaf oll hwn a fu
O'r dilesg hygar deulu;
Ac ef a faith gofiaf fi—
Ystyriaf ei ffraeth stori;
Ac yn aml dychmygu wnaf,
Yn bur ddedwydd breuddwydiaf
Fy mod yn canfod y cylch
Yn ymgom fyth o'm hamgylch;
Hyglod ŵr yr arogl darth
Yn didor greu ei dewdarth,
Ac aml y mae 'i gwmwl mwg
Yn ei gelu o'n golwg;
Ond wrth ffrwd ei araith ffri,
Hynod bob gair o honi,
Wrth ei nåd a'i chwerthin o,
Adweinir ei fod yno.
A gwir iawn mai gŵr hynaws
A llon oedd, didwyll ei naws;
Aml awr bu fawr fy hiraeth
Am wir ffrind, ac un mor ffraeth.