Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi byr gerdded y byd
E welodd ei anwylyd;
Ei anwylyd oedd Neli,
A'i Forfudd ddedwydd oedd hi;
Ac o flodeu Deheudir
Ni welai ail Neli, wir;
Neli oedd ei lili lon,
A Neli aeth a'i galon.

E gadd y lleill, gwiwddull wedd,
O geinaf flodau Gwynedd,
Neu bwysi teg Bowys dir,
Hyfrydwch penna'r frodir.
Oni welais mo Neli
Irdwf hardd, ni chredaf fi
Fod o fun yn Nyfed faith
Ail i Neli wen eilwaith.
E wyr y llanc geinder llun,
A Neli gaffai'n eilun.

Anwylodd ef ei Neli,
A cha'r tâl o'i chariad hi;
Ca ryw nef o dangnefedd
Yn awr yn ei hinon wedd
A'i golygon hoywlon hi,
Ac yn heulog wên Neli;
A Neli wen ei haul yw,
Hyn a wyddom ni heddyw.