Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWDLAU

CYMRU FU : CYMRU FYDD

I wlad Gymru bu mil beirdd,—a'u mêl wawd
Aml ydoedd; a phrifeirdd
Ynddi yn gwau odlau heirdd.

Wele, di gêst, wlad y gân,
Do, beraidd wawd y beirdd hên ;
Cefaist Ddafydd gywydd gwin
Yn eu mysg, a Gronwy Môn.

Hen feirdd fu i Gymru gynt—
Oedd gynnes cerdd a genynt,
Annisbur odlau 'sbrydlon
Yn frwd o eigion y fron.

O, fal y cenid, o fawl acenion,
Gerddi dwys agwrdd i dywysogion,
Didlawd ofegwawd i bendefigion,
Hen wŷr i daro dros Gymru dirion,
Colli eu gwaed dan draed er hon, —wladgar
Wyr dewrwych, a hygar eurdorchogion.