Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Godidog eurfant gantawr
Fu ef i Lywelyn fawr.
Bleddyn fardd a'i wawd harddaf,—a'r enwog
Ap yr Ynad gofiaf,
Os cofiaf y dewraf dyn,
"Llywelyn ein llyw olaf."
Nid oes i ni dywysog,
A gwir yw, wedi ei grog.
Walia wen, O, alanas!
Ei holaf lyw, ef a las.
O lwyr ing i wylo'r af,
I ddirgeledd ergiliaf,
Och! fy nhud, a chofio wnaf
Lywelyn dy lyw olaf.
Ar ol Llywelyn eraill a welaf,
Yn urdd o ryw gewri, feirdd rhagoraf.
Iolo Goch, ynad glew gwych a enwaf;
Engir ydd eiliodd wawd angerddolaf
Yn hwyrddydd ei oes harddaf—i Lyn Dŵr—
Mawr ddiffynnwr Cymru oedd a'i phennaf:
"Dyre i'n gwlad, dur iawn gledd,
"Deyrnaswr drwy ynysedd ;
"Dyga ran dy garennydd,
"Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd!"