Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Uchel loyw—wawd, na chlywem!—sain hygar
I Seisnigaeth falchdrem;
Rhydd eilier rhyw gerdd hoywlem―megis tân,
Hoyw brysur fo'r gân i breserfwyr gêm.

Rhown arwyrain aur-eiriog—am radau
Ein Nimrodiaid nerthog;
Heliant gadarn 'sgyfarnog
Heb eiliw ofn, ac heb lôg!

Geir adrodd eu gwrhydri
A'u glewdid i'w hymlid hi?

A dygwch ddethol folawd,
A pharch i chwareuon ffawd,
A dygwch i redegwyr
Ceffylau—a gorau gwŷr;
Moeswch, llefwch yn llafar
Eu peraidd glod, giwdod gwâr!

Rhyw chwai eiriau rhy chwerwon?
Chwerw, fy mrawd, a chur fy mron.
Hen fonedd a fu unwaith
I'n gwlad gu, loywed eu gwaith!
I'w lle daeth bonedd heddyw,
A'u goreu waith gware yw;
Gware yw eu goreuwaith,
Ba waethaf eu gwaethaf gwaith?

<poem>