Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn rhyw garn Saeson trawsion y troesant,
A'r groyw—iaith wiwdeg Gymraeg wrthodant,
Sarhaus, trahaus y'i diystyrasant.
Eres trwy oesoedd eu gwlad rwystrasant,—
Yn lle'i llywyddu i wellwell lwyddiant,
O'u calon yn gyson dirmygasant
Ei holl ddyhewyd, ei chŵyn a'i mwyniant;
A'i chrefydd lwys, dwys y'i herlidiasant ;
Un da o Walia welant :—y rhenti
 rheibus egni o'r bau a sugnant.

Ond prif wyddfod
Yr Eisteddfod
Am aur y god, O Gymru! gânt;
Ac yn y lleoedd uchaf y safant,
Dieithr eu drych, odiaeth, yr edrychant,
A'u Saesneg carnbwl geciant—i foli
(Ys diwerth stori!) iaith ddiystyrant.

Adrodder teg, hardd—deg hynt,
A hanes un ohonynt.

Am ei ddawn ef, meddiannu
A chydio maes wrth faes fu;
Gormesu bu ar y bobl,
O dir cyd myned a'r cwbl,
I'w feddu oll ef oedd abl.
I wirion tlawd yn aros
Yr oedd ochr ffordd a chwr ffos.