Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A haul nef, a glaw hefyd,
A bwyd i bawb, a da byd.

Kroisos, y cu oreusant,
Fu'r mwyaf, blaenaf o'th blant;
Helaethaf ei alafoedd,
Cyfoethocaf, uchaf oedd.

Alexander goncwerwr,
Tydi gynt oedd tad y gŵr;
Mab Zeus, medd ef; addefwn;
Ti eisoes oedd y Zeus hwn.
Rhwyf daearfyd a'i wirfab—
Duw'r byd yn rhoi'i fyd i'w fab.

Pa dduw iôr pioedd arwain—ym mrwydrau
Ymerodrol Rhufain?
Ai Mawrth, anghenfil milain?
Ai Iau eu rhi? Neb o'r rhain.

Pwy ond ti ym mhob hynt oedd
I annog y byddinoedd?
Ysbryd y byd a'i bywhâi,
Ti i ennill a'u taniai,
A thi'n iôr yn llywio'r llu,
Drwy drachwant, draw i drechu.
Duw'r digonedd a'r meddiant
A bair, abl yw, wobr i'w blant.