Pwy all ddesgrifio chwerwon loesion Iesu?
Pan ddaeth Iscariot ato i'w gusanu,—
Y bradwr hyf, yr euog anystyriol—
Y meidrol gwael yn gwerthu yr Anfeidrol.
Rhoed Prynwr byd, yr Aberth mawr tragwyddol,
I sefyll gerbron Pilat mewn llys dynol,
A'r dorf gynddeiriog yn edmygu'r Unig—
Heb neb yn arddel Iesu 'r nef anedig.
Ei watwor wnaethant hwy. heb ganfod ynddo
Un bai na phechod hawliai ei groeshoelio.
Er hyny 'r annuw feiddia wawdio'r Iesu,
Y rhai fu gynt o'i ddeutu yn molianu;
Mor unig oedd yn arw awr ei drallod,—
Hyd nôd yn adawedig gan y Duwdod.
Tra taflwyd arno wawd y dorf derfysglyd,
Yr haerllug wallgof leisiau mor ddychrynllyd
Taranent nes adseinio trwy'r mynyddau,
A'u hecco 'n gwatwar draw o'r uchel greigiau;
A Satan a'i felldigawl lu dieflig
Yn hyrddio eu picellau; taflent geryg
A phoerent i wynebpryd gwelw'r Iesu,
Yr hwn tros erch bechodau byd yn trengu!
O! 'r fath waradwydd i Greawdwr bydoedd,
Ei osod ar y groes rhwng byd a nefoedd;—
Yr haul, fel pe i wylo, drodd o'i gylchdaith,
Nis gallai edrych ar y fath anfadwaith.
Ac engyl Duw ar drothwy'r nef safasant
Yn fud mewn braw a dychryn pan y gwelsant
Y dafnau gwaed yn llifo o ddoluriau
Yr Iesu pur, ac yntau 'n gwaeddi 'Maddeu!'
Sylfeini 'r greadigaeth a ysgydwyd
Pan waeddodd Crist o'i ing y gair 'Gorphenwyd!'
Y creigiau cedyrn welwyd yno 'n hollti,
A meirwon lu o'u beddau yn cyfodi.
O! ryfedd drefn, teyrnasu wnaeth trugaredd
Pan roddwyd Aberth llawn mewn bedd i orwedd.
******
Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/100
Prawfddarllenwyd y dudalen hon