Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CANIADAU GLAN CYMERIG.



FY NGWLAD.

FY ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
Rhyw Eden hudol yw;
Dy froydd teg, a'th fryniau mad,
Dy ddyfroedd gloewon byw;
Llynoedd gloewon ymddisgleiriant
Fel drychau arian ymddanghosant
Llûn mynyddoedd yn ymgodi,
Ar y bryniau i'r wybreni;
Gydia'n hynys fel cadwyni.
Ag arall fyd.

Fy ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
Paradwys wyt i mi;
O dan y nef ni chaf fwynhad,
Fel ar dy fronau di;
Hen gartref rhyddid, gwlad y delyn,
Wyt ti er gwaethaf trais y gelyn,
Yn nhawelwch tragwyddoldeb
Awen Cymru, a'i thlysineb,
Unir byth mewn anfarwoldeb
Ag arall fyd.

Fy ngwlad, fy ngwlad, fy anwyl wlad,
'Rwyt ti yn fyd o gân;
A myn Ceridwen roi mawrhad,
Ar awen Cymru lân;
Yn anwyl wlad fy ngenedigaeth,
Y mae pob cwmwd yn farddoniaeth.
Uwch bedd amser a'i flynyddoedd,
Hanes ei hen gymanfaoedd
A gysylltir yn y nefoedd,
Ag arall fyd.