Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN PENRI.

PAN oedd Cymru'n nghaddug dudew anghrediniaeth,
Pan oedd pechod yn teyrnasu'n ben;
Wele Penri, seren foreu gwaredigaeth,
Yn disgleirio yn ffurfafen Cymru wen;
Gwelodd pan yn crwydro 'i hen wlad enedigol,
Angen ei gyfoedion annuw am y Gair.
Penderfynodd ef trwy gymorth yr Anfeidrol,
Ddangos gwerth yr Hwn fu gynt ar liniau Mair.
Bu'n hiraethu pan yn ieuanc yn Brycheiniog,
Am ddyfodiad gwawr oleuni ar y wlad,—
Yno teimlodd fod Gwaredwr mor ardderchog,
Yn Gyfryngwr rhyngddo ef a'i nefol Dad.
Bu yn gweddio ar y nefoedd am wybodaeth,
I ddadblygu maint yr Iawn fu ar y Groes ;
Ac mae'r nefoedd iddo 'n estyn haul dysgeidiaeth
I'w oleuo, trwy dywyllwch dudew'r oes.
Draw i Gaegrawnt y cychwynodd ef o Gymru,
Yn llawn hyder i lafurio at y gwaith;
Yno 'n ddiwyd am flynyddau bu'n efrydu,
Er mwyn arwain Cymry druain ar eu taith;
Byddai weithian yn dod adref i hyfforddi,
Rhai sychedai am y dyfroedd dwyfol byw.
Yna meiddia wg gelynion dirifedi,
Rhai chwareuent gydag achos mawr eu Duw
Mor ddeniadol oedd ei glywed yn taer erfyn
Am dywalltiad Ysbryd sanctaidd pur y nef.
Fel y byddai yn gweddio dros y gelyn,—
Feiddia wadu Duw ag uchel lef.

O! adfydus Gymru anwyl, mor echryslawn,
Mor ofnadwy oedd dy bechod a dy gri;
Dy drigolion anwybodus, mor anghyfiawn
Oeddynt hwy i farnu dy weithredoedd di;
Ah! mor chwerw oedd y dagrau wylodd Penri,
Wrth dy weled ti yn suddo 'n is o hyd,
I'r dyfnderoedd tros geulanau erch trueni,
I gyfarfod cyflog pechod mewn ail fyd.