Tudalen:Caniadau Owen Lewis Glan Cymerig.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu yn feddyg i addysgu y trueiniaid,
Ffordd i'r ddinas ddwyfol ddisglaer lle nad oes
Ond molianu gan angylion a cherubiaid,
Wrth orseddfa 'r hwn fu farw ar y Groes;
Mor odidog oedd ei allu i gynllunio—
Addas lwybrau i'r anffodus rai,
Aeth at ddoethion senedd Prydain i ymbilio
Am gyfreithiau i ddinoethi'r erchyll fai
Oedd yn gorwedd ar ysgwyddau gwag estroniaid
Eiddigeddus, heb wybodaeth am yr iaith ;
Trwy ba un i lywodraethu ei anwyliaid
A newynent trwy eu llygredigol waith.


Yn nghrombil ddu y ddaear oer,
Fe'i dodwyd ef i orwedd,
Mewn man nas gallai wel'd y lloer.
Na goleu 'r dydd a'i fawredd ;
Er hyny clywai lais yr Ior,
Yn sibrwd rhwng y muriau
Fod ei drugaredd fel y mor,
Yn golchi 'n wyn 'r holl feiau.

Pe codid cwr o'r ddwyfol len,
Fe welid yr angylion
Yn agor pyrth y nefoedd wen
I'w dderbyn o'i dreialon;
'R oedd yno le ger mainc yr Ior,
Yn disgwyl oedd am dano,
A phawb yn canu heb ddim poen,
A'r Iesu yno'n gwrando.

Mor ddwys gweddiai ar ei Dad
Am atal y llifeiriant
Ofnadwy dreiglai tros y wlad
Yn ddiluw o ddigofaint;
Er iddynt ei garcharu ef
Mewn carchar tywyll unig,
Fe glywai engyl nef y nef
Yn canu 'r nefol odlig.